Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mawrth 2024
Amser:
14.00 -
14.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13739
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Peredur Owen Griffiths AS Buffy Williams AS Altaf Hussain AS (yn lle Joel James AS) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Lorna Scurlock (Clerc) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriad gan Joel James AS.
Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Trafnidiaeth Cymru eisoes yn cynnal gweithrediad monitro helaeth. Fel rhan o'r data yma, bydd data'n cael ei gasglu am hyd at bum mlynedd ar ôl gweithredu, a fydd yn cynnwys arolygon ansoddol o agweddau. Cyhoeddwyd yr adroddiad monitro terfynol ar gyfer yr ardaloedd peilot ar 20 Chwefror. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd waith Pwyllgor y Bil Diwygio.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i dynnu sylw at y ddeiseb hon a gofyn iddi gael ei hystyried fel tystiolaeth wrth ystyried adalw Aelodau yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i ofyn i’r ddeiseb hon a’r wybodaeth a ddarparwyd gael eu hystyried yn dystiolaeth yn yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 1 Mawrth 2024, ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i wneud cais am ddadl ar y mater. Bu sawl deiseb yn codi pryderon am y Cod ADY – a’r broses o’i roi ar waith – a chyfeirir at y deisebau eraill pan fydd y ddeiseb hon yn cael ei thrafod.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn gofyn am ragor o wybodaeth am archwiliad Llywodraeth Cymru o gynllun trwyddedu ar gyfer manwerthwyr tybaco ac anwedd. Cytunodd yr Aelodau i aros am ymateb y Dirprwy Weinidog cyn penderfynu a ddylid cynnal unrhyw waith pellach ar y ddeiseb.
At hynny, cytunwyd i ofyn cwestiwn ar wahân ‘r Dirprwy Weinidog am stondinau shisha.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, nid yw'n glir beth arall y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â'r ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb y Gweinidog gan ddweud nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno refferenda ar gynnydd yn y dreth gyngor, a bod cynlluniau eisoes ar waith i ymateb i godiadau gormodol, os oes angen. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am eglurhad ynghylch pwyntiau pellach y deisebydd ynghylch unrhyw asesiad o effaith y toriadau ac a oes data ar gael ar ganlyniadau myfyrwyr blaenorol a allai lywio'r drafodaeth.
Mynegodd yr aelodau eu tristwch fod iechyd Tassia wedi gwaethygu'n sylweddol ac roedd eu meddyliau gyda Tassia a'i hanwyliaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mynegodd yr aelodau pa mor ysbrydoledig y bu ei hymrwymiad a'i hymroddiad i wella gofal canser. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at hanes a llwyddiant y ddeiseb a’r hyn y mae Tassia wedi’i gyflawni drwy ei deiseb ac ymgyrchu ehangach i wella prosesau cynllunio, a gwasanaethau ar gyfer canser metastatig y fron.
Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i Tassia am fod yn gatalydd ar gyfer newid, ac yn hyrwyddwr ar gyfer pob menyw â chanser y fron sydd, wedyn yn datblygu canser metastatig y fron yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ohebiaeth gan y Bwrdd Iechyd, Cymdeithas yr Ysbytai Cymunedol a'r deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Bwrdd Iechyd i godi pryderon y deisebydd a Chymdeithas yr Ysbytai Cymunedol, a gofyn yn benodol am y canlynol:
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi cyfarfod â'r deisebwyr ar adegau ac mae'n gefnogol iawn i gynsail y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ohebiaeth ddiweddar a ddaeth i law oddi wrth Mark Isherwoord AS.
Cytunodd yr Aelodau i gymryd amser i fyfyrio ar yr ohebiaeth a gafwyd, ac i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyda'r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd, a'r llythyr a gafwyd oddi wrth Mark Isherwood AS.
Derbyniwyd y cynnig.